Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2020
Amser:
09.30 -
11.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6406
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Jack Sargeant AS (yn lle Hefin David AS) Suzy Davies AS Janet Finch-Saunders AS Siân Gwenllian AS |
Tystion: |
Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg Claire Bennett, Cyfarwyddwr – Cymunedau a Threchu Tlodi Ceri Planchant, Cyfreithiwr |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Hughes (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei ran.
2 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1 gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg.
2.2 Nododd y Pwyllgor ei fwriad i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh), yn enwedig y camau a gymerwyd i sicrhau eu bod yn gydnaws â deddfwriaeth hawliau dynol.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.